Y Salmau 43
43
SALM XLIII
Indica me Domine.
Gweddio am gael ei wared o ddwylo yr enwir, modd y gallai foli Duw yn ei gynulleidfa sanctaidd.
1Barn fi (o Dduw) a dadleu’n dynn
yn erbyn pob oedd enwir,
Rhag y gwr twyllgar gwared fi,
a rhag drygioni’r dihir.
2Cans ti yw Duw fy nerth i gyd,
paham ym’ bwryd ymaith?
A pha’m yr âf mor drwm a hyn,
gan bwys y gelyn diffaith?
3Gyr dy olau, a moes dy wir,
ac felly twysir finnau:
A’m harwain i’th breswylfydd,
i’th fynydd, ac i’th demlau.
4Yna yr âf at allor Duw,
sef goruchel Dduw hyfryd,
Ac ar y delyn canaf fawl,
Duw, Duw, fy hawl a’m gwynfyd.
5Trwm wyd f’enaid o’m mewn: paham
y rhoi brudd lam ochenaid?
Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron
ei wyneb tirion cannaid.
Dewis Presennol:
Y Salmau 43: SC
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017