Y Salmau 38
38
SALM XXXVIII
Domine ne.
Dafydd yn glaf yn cydnabod mai oddiwrth yr Arglwydd y mae hynny yn dyfod iddo am ei bechodau, ac yn dymuno ar Dduw droi ei law, ac yno drwy ffydd, ac ymroi i Dduw, y mae yn gobeithio iechyd.
1Fy Arglwydd, na cherydda fi,
ym mhoethni dy gynddaredd:
Ac na chosba fi yn dy lid
oblegid fy enwiredd.
2Cans glyn dy saethau ynof fi,
a phennau’r rheini’n llymion:
A dodaist arnaf y llaw dau,
a rhoist ddyrnodiau trymion.
3Nid oes mo’r iechyd gan dy lid,
i’m cnawd, ond gofid creulon:
Ac nid oes (gan fy mhechod chwyrn)
mor hedd i’m hesgyrn sychion.
4Cans fy nghamweddau aent i’r nen,
a thros fy mhen tyfasant:
Un wedd a baich rhy drwm o bwys
fal hyn mor ddwys i’m llethant.
5Fy nglheisiau sydd fal yn bwdr ddu
yn llygru gan f’ynfydrwydd:
6Crymais, a phellais beth bob dydd,
sef galar sydd ac aflwydd.
7Cans mae fy llwynau’n llawn o wres,
a’m cnawd heb les nac iechyd.
8Llesg wan ac ysig, yw fy mron,
lle gwaedda calon nychlyd.
9Clyw Arglwydd fi, herwydd o’th flaen
yn hollawl mae ’nymuniad,
Ni chuddiwyd mo’m ochenaid i,
oddiwrthit di fy ngheidwad.
10Llamma ’nghalon, palla fy nerth,
a’m golwg prydferth hefyd,
11Cyfnesaf, cyfaill, câr, nid gwell,
hwy aent ym mhell i’m hadfyd.
12A’m caseion i yn nessau,
a’i maglau ffug a’i dichell,
Safai fy ngheraint i yn synn,
i edrych hyn o hirbell.
13Minnau fel dyn byddar a awn
megis pe bawn heb glywed:
Neu fel y mudan (dan dristau)
heb enau yn egored.
14Yn fud fel hyn y gwn fy mod,
fel un a thafod efrydd:
Neb ddwedyd unwaith air o’m pen,
i dalu sen a cherydd.
15Gan ym’ gredu i ti yn rhwydd,
o Arglwydd Dduw goruchaf,
Rhwydd a hysbys iawn gennif fi
yw y gwrandewi arnaf.
16Mi a ddymunais arnat hyn,
rhag bod i’m gelyn wowdio,
O lithrai fy nrhoed ronyn bach,
fo fydd llawenach gantho.
17Cloffi yn barod rwyf yn wir,
a dolur hir sy’n poeni:
18Addef yr wyf mai iawn ym’ fod,
fy mhechod sy’n ei beri.
19A’m gelynion i sydd yn fyw
yn aml ei rhyw, a chryfion:
Sydd yn dwyn câs i mi ar gam,
sef am fy mod yn gyfion.
20Y rhai a dalant ddrwg dros dda
a’m gwrthwyneba’n efrydd:
A hyn am ddylyn honof i
y pur ddaioni beunydd.
21Duw, nac ymâd, na fydd ym’mhell,
pen ddelo dichell ffyrnig,
22Brysia, cymorth fi yn y byd,
fy Nuw, a’m iechyd unig.
Dewis Presennol:
Y Salmau 38: SC
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017