Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 18

18
SALM XVIII
Diligam te.
Dafydd yn diolch i Dduw, am ei orfoledd a’i frenhiniaeth, gan ddatgan gwrthiau Duw, yn rheoli hinon: y mae yn prophwydo am Grist.
1O Ior fy ngrym caraf di’n fawr
fy nghreiglawr, twr f’ymwared,
2Fy Nâf, fy nerth, fy nawdd, fy Nuw,
hwn yw fy holl ymddiried.
3Pan alwyf ar fy Ior hynod,
i’r hwn mae clod yn gyfion,
Yna i’m cedwir yn ddiau
rhag drygau fy nghaseion.
4Gofidion angau o bob tu
oeddynt yn cyrchu i’m herbyn,
A llifodd afonydd y fall
yn ddiball, er fy nychryn.
5Pan ydoedd fwyaf ofn y bedd,
a gwaedlyd ddiwedd arnaf,
Ag arfau angau o bob tu,
am câs yn nesu attaf.
6Yna y gelwais ar fy Ner,
ef o’r uchelder clywodd,
A’m gwaedd a ddaeth hyd gar ei fron,
a thirion y croesafodd.
7Pan ddigiodd Duw, daeth daeargryn,
a sail pob bryn a siglodd:
A chyffro drwy’r wlad ar ei hyd,
a’r hollfyd a gynhyrfodd.
8O’i enau tan o’i ffroenau tarth,
yn nynnu pobparth wybren:
9A chan gymylu dan ei draed,
du y gwnaed y ffurfafen.
10Ac fal yr oedd ein Ior fel hyn,
uwch Cherubyn yn hedeg:
Ac uwch law adenydd y gwynt,
Mewn nefol helynt hoywdeg.
11Mewn dyfroedd a chymylau fry,
mae’ i wely heb ei weled.
12Ac yn eu gyrru’n genllysg mân,
a marwor tân i wared.
13Gyrrodd daranau, dyna’i lef,
gyrrodd o’r nef gennadon.
14Cenllysg, marwar tân, mellt yn gwau,
fal dyna’i saethau poethion.
15Distrywiwyd dy gas: felly gynt
gan chwythiad gwynt o’th enau:
Gwasgeraist di y moroedd mawr,
gwelwyd y llawr yn olau.
16Felly gwnaeth Duw a mi’r un modd
anfonodd o’r uchelder,
Ac a’m tynnodd, o’r lle yr oedd
i’m hamgylch ddyfroedd lawer.
17Fe a’m gwaredodd Duw fal hyn,
o ddiwrth fy ngelyn cadarn:
Yn rhydrwm imi am ei fod,
rhof finnau glod hyd dyddfarn.
18Safent o’m blaen ni chawn ffordd rydd
tra fum yn nydd fy ngofid:
Ond yr Arglwydd ef oedd i’m dal,
a’m cynal yn fy ngwendid.
19Fy naf ei hun a’m rhoes yn rhydd,
fe fu waredydd ymy:
Ac o dra serch i mi y gwnaeth:
na bawn i gaeth ond hynny.
20Yr Arglwydd am gobrwya’n ol,
fy ngwastadol gyfiownder:
Ac yn ol gwendid fy nwy law,
tal i’m a ddaw mewn amser.
21Cans ceisiais ffyrdd fy Arglwydd ner,
ni wneuthym hyder ormod,
Na dim sceler erbyn fy Nuw,
gochelais gyfryw bechod.
22Cans ei ddeddfau, maen ger fy mron
a’i hollawl gyfion farnau:
Ac ni rois heibio’r un or rhai’n,
hwy ynt fynghoelfain innau.
23Bum berffaith hefyd o’i flaen, ac
ymgedwais rhag byw’n rhyddrwg:
24A’r Arglwydd gobrwyodd fi’n llawn
yr hyn fu’n iawn iw olwg.
25I’r trugarog trugaredd rhoi,
i’r perffaith troi berffeithrwydd:
26A’r glan gwnei lendid, ac i’r tyn,
y byddi gyndyn Arglwydd.
27Cans mawr yw dy drugaredd di,
gwaredi’r truan tawel:
Ac a ostyngi gar dy fron,
rai a golygon uchel.
28Ti a oleui’ nghanwyll i,
am hynny ti a garaf,
Tydi a droi fy nos yn ddydd,
a’m tywyll fydd goleuaf.
29Oblegid ynot ti, fy Naf,
y torraf trwy y fyddin:
Ie yn fy Nuw y neidia’n llwyr,
be tros y fagwyr feinin.
30Ys perffaith ydyw ffordd Duw nef,
a’i air ef fydd buredig:
Ac i bob dyn yntho a gred
Mae’n fwccled bendigedig.
31Cans pwy sydd Dduw? dwedwch yn rhwydd,
pwy ond yr Arglwydd nefol?
A phwy sydd graig onid ein Duw?
sef, disigl yw’n dragwyddol.
32Duw a’m gwregysodd i a nerth,
a rhoes ym brydferth lwybrau.
33Fo roes fy nrhaed ar hy-llwybr da,
gorseddfa’r uchelfannau.
34Efe sy’n dysgu rhyfel ym’
gan roi grym i’m pawennau:
Fel y torrir bwa o ddur
yn brysur rhwng fy mreichiau.
35Daeth o’th ddaioni hyn i gyd,
rhoist darian iechyd ymy:
A’th law ddeau yr wyd im’ dwyn,
o’th swynder yr wy’n tyfy.
36Ehengaist ymy lwybrau teg,
i redeg buan gamrau:
Nid oes ynof un cymal gwan,
ni weggian fy mynyglau.
37Erlidiais i fy nghas yn llym,
a daethym iw goddiwedd:
Ac ni throis un cam i’m hol mwy
nes eu bod hwy’n gelanedd.
38Gwnaethym arnynt archollion hyll
fel sefyll nas gallasant:
Ond trwy amarch iw cig, a’i gwaed,
i lawr dan draed syrthiasant.
39Gwregysaist fi a gwregys nerth,
at wres ac angerth rhyfel:
A’r rhai a ddaeth i’m herbyn i,
a gwympaist di’n ddiogel.
40Fal hyn y gwnaethost imi gau
ar warrau fy ngelynion:
A’m holl gas a ddifethais i,
rhois hwynt i weiddi digon.
41Ac er gweiddi drwy gydol dydd
ni ddoe achubydd attynt,
Er galw’r Arglwydd:
ni ddoe neb a roddi atteb iddynt.
42Maluriais hwy fel llwch mewn gwynt,
fal dyna helynt efrydd:
Ac mi a’i sethrais hwynt yn ffrom,
fel pridd neu dom heolydd.
43Gwaredaist fi o law fy nghas,
rhoist bawb o’m cwmpas danaf:
Doe rai ni welsent fi erioed
a llaw, a throed, hyd attaf.
44Addaw ufydd-dod, ond fo gaid
gan blant estroniaid gelwydd:
45A phlant estroniaid twyll a wnant,
ond crynant iw stafellydd
46Eithr byw yw yr Arglwydd ar fy mhlaid,
fy nghraig fendigaid hefyd,
Derchafer Duw: yntho ef trig
fy nerth a’m unig Iechyd.
47Fy Nuw tra fo a’i nerth i’m dal,
rhoi dial hawdd y gallaf.
A rholi pobloedd: cans efo
sydd yn eu twyso attaf.
48Fy ngwaredydd, a’m derchafydd,
o chyfyd rhai i’m herbyn,
Wyt ti o Dduw: a’m dug ar gais
rhag drwg a thrais y gelyn.
49Am hyn canmolaf di yn rhwydd
o Arglwydd, Dduw y lluoedd:
Canaf dy glod: o hyn fydd dysg,
ymysg yr holl genhedloedd.
50Duw sydd yn gwneuthyr (o’i fawr rad)
fawrhad i frenin Dafydd,
Ac iw eneiniog ei wellad,
Ac iw had yn dragywydd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 18: SC

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda