Y Salmau 13
13
SALM XIII
Usquequó Domine.
Ymresymmu â Duw, drwy boethni yr Yspryd, a thrwy weddi cael gobaith.
Caner hon fel Psalm 2.
1Pa hyd fy Arglwydd, Dduw dilyth?
a’i byth yr wyf mewn angof?
Pa guddio r’wyd, (o Dduw) pa hyd?
dy lân wynebpryd rhagof?
2Ba hyd y rhed meddyliau tro
bob awr i flino ’nghalon?
Pa hyd y goddefaf y dir?
dra codir fy nghaseion.
3O Arglwydd edrych arnaf fi,
a chlyw fy ngweddi ffyddlon.
Egor fy llygaid, rhag eu cau
ynghysgfa angau ddigllon.
4Pe llithrwn ddim, (rhag maint yw’r llid)
fo ddwedid fy ngorchfygu:
A llawen fyddai fy holl gâs:
dal fi o’th râs i fynu.
5Minnau’n dy nawdd a rois fy ffydd,
a’m holl lawenydd eithaf:
Canaf i’m Duw am helpodd i,
gwnaf gerddi i’r Goruchaf.
Dewis Presennol:
Y Salmau 13: SC
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017