1
Actau 14:15
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004
“Ddynion, pam yr ydych yn gwneud hyn? Bodau dynol ydym ninnau, o'r un anian â chwi. Cyhoeddi newydd da i chwi yr ydym, i'ch troi oddi wrth y pethau ofer hyn at y Duw byw a wnaeth y nef a'r ddaear a'r môr a phopeth sydd ynddynt.
Cymharu
Archwiliwch Actau 14:15
2
Actau 14:9-10
Yr oedd hwn yn gwrando ar Paul yn llefaru. Syllodd yntau arno, a gwelodd fod ganddo ffydd i gael ei iacháu, a dywedodd â llais uchel, “Saf yn unionsyth ar dy draed.” Neidiodd yntau i fyny a dechrau cerdded.
Archwiliwch Actau 14:9-10
3
Actau 14:23
Penodasant iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a'u cyflwyno, ar ôl gweddïo ac ymprydio, i'r Arglwydd yr oeddent wedi credu ynddo.
Archwiliwch Actau 14:23
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos