Dyma air yr ARGLWYDD a ddaeth at y proffwyd Jeremeia ynghylch y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
‘Wele, y mae dyfroedd yn tarddu o'r gogledd,
ac yn llifeirio'n ffrwd gref;
llifant dros y wlad a'i chynnwys,
ei dinasoedd a'u preswylwyr.
Y mae'r bobl yn gweiddi
a holl breswylwyr y wlad yn udo