Jeremeia 47:1-2
Jeremeia 47:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y Philistiaid, cyn i’r Pharo ymosod ar Gasa. Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Edrychwch! Mae’r gelynion yn codi yn y gogledd fel afon ar fin gorlifo. Byddan nhw’n dod fel llifogydd i orchuddio’r tir. Byddan nhw’n dinistrio’r wlad a phopeth ynddi, y trefi a phawb sy’n byw ynddyn nhw. Bydd pobl yn gweiddi mewn dychryn, a phopeth byw yn griddfan mewn poen.
Jeremeia 47:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma air yr ARGLWYDD a ddaeth at y proffwyd Jeremeia ynghylch y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Wele, y mae dyfroedd yn tarddu o'r gogledd, ac yn llifeirio'n ffrwd gref; llifant dros y wlad a'i chynnwys, ei dinasoedd a'u preswylwyr. Y mae'r bobl yn gweiddi a holl breswylwyr y wlad yn udo
Jeremeia 47:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, dyfroedd a gyfodant o’r gogledd, ac a fyddant fel afon lifeiriol, a hwy a lifant dros y wlad, a’r hyn sydd ynddi; y ddinas, a’r rhai sydd yn aros ynddi; yna y dynion a waeddant, a holl breswylwyr y wlad a udant.