1
Iago 2:17
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Felly hefyd y mae ffydd ar ei phen ei hun, os nad oes ganddi weithredoedd, yn farw.
Cymharu
Archwiliwch Iago 2:17
2
Iago 2:26
Fel y mae'r corff heb anadl yn farw, felly hefyd y mae ffydd heb weithredoedd yn farw.
Archwiliwch Iago 2:26
3
Iago 2:14
Fy nghyfeillion, pa les yw i rywun ddweud fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A all y ffydd honno ei achub?
Archwiliwch Iago 2:14
4
Iago 2:19
Yr wyt ti'n credu bod Duw yn un. Da iawn! Y mae'r cythreuliaid hefyd yn credu hynny, ac yn crynu.
Archwiliwch Iago 2:19
5
Iago 2:18
Ond efallai y bydd rhywun yn dweud, “Ffydd sydd gennyt ti, gweithredoedd sydd gennyf fi.” O'r gorau, dangos i mi dy ffydd di heb weithredoedd, ac fe ddangosaf finnau i ti fy ffydd i trwy weithredoedd.
Archwiliwch Iago 2:18
6
Iago 2:13
Didrugaredd fydd y farn honno i'r sawl na ddangosodd drugaredd. Trech trugaredd na barn.
Archwiliwch Iago 2:13
7
Iago 2:24
Fe welwch felly mai trwy weithredoedd y mae rhywun yn cael ei gyfiawnhau, ac nid trwy ffydd yn unig.
Archwiliwch Iago 2:24
8
Iago 2:22
Y mae'n eglur iti mai cydweithio â'i weithredoedd yr oedd ei ffydd, ac mai trwy'r gweithredoedd y cafodd ei ffydd ei mynegi'n berffaith.
Archwiliwch Iago 2:22
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos