1
Iago 1:2-3
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Fy nghyfeillion, cyfrifwch hi'n llawenydd pur pan syrthiwch i amrywiol brofedigaethau, gan wybod fod y prawf ar eich ffydd yn magu dyfalbarhad.
Cymharu
Archwiliwch Iago 1:2-3
2
Iago 1:5
Ac os oes un ohonoch yn ddiffygiol mewn doethineb, gofynned gan Dduw, ac fe'i rhoddir iddo, oherwydd y mae Duw yn rhoi i bawb yn hael a heb ddannod.
Archwiliwch Iago 1:5
3
Iago 1:19
Ystyriwch, fy nghyfeillion annwyl. Rhaid i bob un fod yn gyflym i wrando, ond yn araf i lefaru, ac yn araf i ddigio
Archwiliwch Iago 1:19
4
Iago 1:4
A gadewch i ddyfalbarhad gyflawni ei waith, er mwyn ichwi fod yn berffaith a chyflawn, heb fod yn ddiffygiol mewn dim.
Archwiliwch Iago 1:4
5
Iago 1:22
Byddwch yn weithredwyr y gair, nid yn wrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain.
Archwiliwch Iago 1:22
6
Iago 1:12
Gwyn ei fyd y sawl sy'n dal ei dir mewn temtasiwn, oherwydd ar ôl iddo fynd trwy'r prawf fe gaiff, yn goron, y bywyd a addawodd yr Arglwydd i'r rhai sydd yn ei garu ef.
Archwiliwch Iago 1:12
7
Iago 1:17
Oddi uchod y daw pob rhoi da a phob rhodd berffaith. Disgyn y maent oddi wrth Dad goleuadau'r nef; ac iddo ef ni pherthyn na chyfnewid na chysgod troadau'r rhod.
Archwiliwch Iago 1:17
8
Iago 1:23-24
Oherwydd os yw rhywun yn wrandawr y gair, ac nid yn weithredwr, y mae'n debyg i un yn gweld mewn drych yr wyneb a gafodd; fe'i gwelodd ei hun, ac yna, wedi iddo fynd i ffwrdd, anghofiodd ar unwaith pa fath un ydoedd.
Archwiliwch Iago 1:23-24
9
Iago 1:27
Dyma'r grefydd sy'n bur a dilychwin yng ngolwg Duw ein Tad: bod rhywun yn gofalu am yr amddifad a'r gweddwon yn eu cyfyngder, ac yn ei gadw ei hun heb ei ddifwyno gan y byd.
Archwiliwch Iago 1:27
10
Iago 1:13-14
Ni ddylai neb sy'n cael ei demtio ddweud, “Oddi wrth Dduw y daw fy nhemtasiwn”; oherwydd ni ellir temtio Duw gan ddrygioni, ac nid yw ef ei hun yn temtio neb. Yn wir, pan yw rhywun yn cael ei demtio, ei chwant ei hun sydd yn ei dynnu ar gyfeiliorn ac yn ei hudo.
Archwiliwch Iago 1:13-14
11
Iago 1:9
Dylai'r credadun distadl ymfalchïo pan ddyrchefir ef
Archwiliwch Iago 1:9
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos