1
Genesis 35:11-12
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
A dywedodd Duw wrtho, “Myfi yw Duw Hollalluog. Bydd ffrwythlon ac amlha; daw ohonot genedl a chynulliad o genhedloedd, a daw brenhinoedd o'th lwynau. Rhof i ti y wlad a roddais i Abraham ac Isaac, a bydd y wlad i'th hil ar dy ôl.”
Cymharu
Archwiliwch Genesis 35:11-12
2
Genesis 35:3
Codwn ac awn i fyny i Fethel, er mwyn imi wneud allor yno i'r Duw a'm gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyda mi ar fy nhaith.”
Archwiliwch Genesis 35:3
3
Genesis 35:10
Dywedodd Duw wrtho, “Jacob yw dy enw, ond nid Jacob y gelwir di o hyn allan; Israel fydd dy enw.” Ac enwyd ef Israel.
Archwiliwch Genesis 35:10
4
Genesis 35:2
Yna dywedodd Jacob wrth ei deulu a phawb oedd gydag ef, “Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, ac ymlanhau, a newid eich dillad.
Archwiliwch Genesis 35:2
5
Genesis 35:1
Dywedodd Duw wrth Jacob, “Cod, dos i fyny i Fethel, ac aros yno; a gwna yno allor i'r Duw a ymddangosodd iti pan oeddit yn ffoi rhag dy frawd Esau.”
Archwiliwch Genesis 35:1
6
Genesis 35:18
Ac fel yr oedd yn gwanychu wrth farw, rhoes iddo'r enw Ben-oni; ond galwodd ei dad ef Benjamin.
Archwiliwch Genesis 35:18
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos