Genesis 35:11-12
Genesis 35:11-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dwedodd Duw wrtho, “Fi ydy’r Duw sy’n rheoli popeth. Dw i eisiau i ti gael lot o blant. Bydd cenedl – ie, hyd yn oed grŵp o genhedloedd – yn dod ohonot ti. Bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd. Ti sydd i gael y tir rois i i Abraham ac Isaac, a bydd yn perthyn i dy ddisgynyddion ar dy ôl di.”
Genesis 35:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dywedodd Duw wrtho, “Myfi yw Duw Hollalluog. Bydd ffrwythlon ac amlha; daw ohonot genedl a chynulliad o genhedloedd, a daw brenhinoedd o'th lwynau. Rhof i ti y wlad a roddais i Abraham ac Isaac, a bydd y wlad i'th hil ar dy ôl.”
Genesis 35:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Hefyd DUW a ddywedodd wrtho, Myfi yw DUW Hollalluog: cynydda, ac amlha; cenedl a chynulleidfa cenhedloedd a fydd ohonot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o’th lwynau di. A’r wlad yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ôl di y rhoddaf y wlad.