Wedi'r saboth, fel we dydd cinta'r wsnoth in dachre, âth Mair o Magadala a'r Mair arall i weld i twm. A'n sidan we deargryn mowr; achos dath ange ir Arglwi, in dwâd lawr o'r nefodd, a simud i garreg nôl a ishte arni. We'r angel in drich fel gole, a we'i ddillad e'n wyn fel ir eria. Achos 'u bo nhwy wedi câl i ofon e fe gafodd i gârds shigwdad a pango fel dinion marw. Ond gwedodd ir angel wrth i menwod, “Peidwch câl ofon; dwi'n gwbod 'ich bo'ch chi'n drich am Iesu a gas 'i groeshoelo. Seno fe 'ma; achos mae e wedi câl i godi, fel wedodd e bise'n digwydd. Dewch, drichwch ar lle wedd e'n gorwe. Wedyn cerwch in golu i weu'th 'i ddisgiblion, “Mae e wedi câl i godi o farw, a mae e'n mynd o'ch blân chi i Galilea; fan'na welwch chi e.’ 'Na beth sy 'da fi weu'thoch chi.” So ethon nhwy o'r twm in glou mewn ofon ond in llawen iawn, a rhedeg a gweu'th i disgiblion. In sidan 'co Iesu'n cwrdd â nhwy a gweud, “Shw ma'i!” A dethon nhwy ato fe, gafel in i drad e, a'i addoli e. Wedyn wedodd Iesu wrthyn nhwy, “Peidwch câl ofon; cerwch i weud wrth in frodyr i i fynd i Galilea; cewn nhwy in weld i fan'na.”