I bore bach wedd i, a we'r pen-ffeiradon a henuried i bobol in trafod 'da'i gily in erbyn Iesu er mwyn i ladd e; a glwmon nhwy e lan, i arwen e bant a'i roi e i Peilat, i lliwodraethwr.
Wedyn, pan we Jwdas, ir un we wedi'i roi e lan, wedi gweld i fod e wedi câl i gondemo, difarodd e, a rhoi'r deg shecel ar hugen nôl i'r pen ffeiradon a'r henuried a gweud, “Dwi wedi pechu wrth roi dyn diniwed lan i gaeth i ladd.” Ond wedon nwy, “Beth yw 'na i ni? Dricha ar i ôl e di unan.” Towlodd e'r shecels arian miwn i'r demel a'u gadel nhwy, a bant ag e a crogi i unan. Cwrodd i pen-ffeiradon i shecles arian a gweud, “Sen i'n iawn rhoi nhw in casglad i demel, achos prish gwâd yw nhwy.” Wedi sharad 'da'i gily, iwson nhwy'r arian i bernu parc i potwr, i fod in finwent i ddinion dierth. So ma'r parc in câl i alw'n Parc i Gwâd hyd heddi. Wedyn dâth beth gâth i weud trw'r proffwyd Jeremeia in wir: “A cwmron nhwy'r deg shecel arian ar hugen, prish ir un we prish wedi'i roi arno, ir un we'r Isreilied wedi rhoi prish, a rhoin nhwy nhwy am barc i potwr, fel nâth ir Arglwi roi ordros i fi.”
Halon nhwy Iesu i sefyll o flân i lliwodraethwr, a hollodd i lliowdraethwr e, “Brenin ir Iddewon wit ti?” Gwedo Iesu, “Ti'n gweud 'ny.” Pan wedde'r pen ffeiradon in i gihuddo fe weno'r henuried in ateb o gwbwl. Wedyn wedodd Peilat wrtho fe, “Senot ti'n cliwed faint o distioleth man nhwy'n dwâd in di erbyn di?” Ond atebodd e ddim o gwbwl, fel bo'r lliwodraethwr in câl sindod mowr.
Amser i Cwrdde Mowr we'r lliwodraethwr in arfer gadel i'r crowd ddewish un dyn we'n i jâl i gâl i adel in rhydd. We 'da nhwy amser 'na ddyn enwog in i jâl o'r enw Iesu Barabbas. So pan wen nhwy i gyda wedi dwâd at i gily gwedodd Peilat wrthyn nhwy, “Pwy ŷch chi moyn i fi adel in rhydd i chi, Iesu Barabbas, neu Iesu sy'n câl i alw'n Meseia?” Achos wedd e'n gwbod u bod nhwy wedi rhoi ei lan mas o sbeit.
Pan wedd e'n ishte ar i sêt-farnu halodd i wraig ato fe in gweud, “Paid câl dim byd i neud 'da'r dyn diniwed 'na, achos dwi wedi jodde lot heddi miwn breuddwyd o'i achos e.”
Ond perswadodd i pen-ffeiradon a'r henuried i cowde i holi am Barabbas a lladd Iesu. Atebo'r lliwodraethwr nhwy, “Pwy un o'r ddou ŷch chi moyn ifi adel in rhydd i chi?” Gwedon nhwy, “Barabbas.” Gwedo Peilat wrthon nhwy, “Beth 'na i wedyn gida Iesu sy'n câl i alw'n Meseia?” Gwedon nhwy i gyd, “Gad 'ddo gâl i groeshoelo!” Gwedodd e, “Pam, pwy ddrwg mae e wedi neud?” Ond wen nhwy'n cadw mlân i weiddi'n uchelach, “Gad 'ddo gâl i groeshoelo!” Pan welodd Peilat i fod e wedi ffaelu, a bo reiat in dachred, cwmrodd e ddŵr a golchi'i ddwylo o flân i crowd, a gweud, “Sena i'n neud dim byd 'da marwoleth i dyn 'ma. Sortwch chi e mas.” Atebo'r dinion i gyd, “Gad i’w wâd e fod arnon ni a ar in plant ni.” Wedyn gadodd e Barabbas in rhydd iddyn nhwy, ond fe halodd e Iesu i gâl i fflangellu a'i roi e in u dwylo nhwy i gâl i groeshoelo.
Cwrmodd sowdiwrs i lliwodraethwr Iesu i bencadlys i lliwodraethwr a dwâd â'r cohort i gyd at i gilyd in i erbyn e. Tinon nhwy i ddillad a rhoi clogyn coch arno fe; wedyn pelthon nhwy goron mas o ddrisy a'i rhoi 'ddi ar i ben; rhoion nhwy corsen in i law dde; a wedyn pligu o'i flân e a neud sbort ar i ben a gweud, “Henffych, Frenin ir Iddewon!” Poeron nhwy arno fe, a mynd â'r gorsen â'i fwrw fe ar i ben. Wedi iddyn nhwy neud sbort ar i bent e, cwmrod nhwy'r clogyn a rhoi'i ddillad i unan nôl arno, a'i arwen e bant i gâl i groeshoelo.
Fel wen nhwy'n dwâd mas ffindon nhwy ddyn o Gyrene, Simon wedd i enw e. Fforson nhw e i gario'i grôs. Pan wen nhwy wedi dwâd i le o'r new Golgotha, istyr 'na yw “Lle'r benglog”, rhoion nhw win i Iesu ifed, ond wedd e wedi cimisgu 'da bustl; ond wedi 'ddo dasto'r peth pallodd e ifed e. Croeshoelon nhwy e a shario'i ddillad e, trw gâl raffl; a nethon nhwy ishe a cadw golwg arno fan'ny. Dros i ben fe sgrifenon nhw'r peth we 'da nhwy in i erbyn e, “IESU YW HWN, BRENIN IR IDDEWON.”
Cas dou leidir 'u croeshoelo 'dag e, un ar i law dde a'r llall ar i whith. We'r rhei we'n mynd heibo in neud sbort ar i ben e, in shiglo'u penne a gweud, “Pam na fuset ti, ti we'n gweud gallet ti fwrw'r demel lawr a'i chodi 'ddi 'to mewn tridie, in safio di unan! Os Crwt Duw wit ti dere lawr o'r grwês 'na.” In gowir ir un ffordd we'r ffeiradon mowr, a'r isgrifeniddion a'r henuried in 'i watwar e, a'n gweud, “Wedd e wedi safio dinion erill; ond seno fe'n galle'r safio'i unan. Fe yw Brenin Isrel; deled e law'r o'r grwês 'na nawr, a fe gredwn ni indo fe. Mae e wedi imddiried in Nuw; beth am i Dduw i ddrich ar 'i ôl e nawr, os yw e moyn; achos wedodd e, 'Crwt Duw wdw i.’” We'r ddou leidir we'n câl u croeshoelo gidag e in neud sbort am i ben e 'fyd.
O ddouddeg o'r gloch mlân âth i wlad i gyd in dewill nes bo'i'n dri o'r gloch in prinawn. Marce tri o'r gloch gweiddodd Iesu â llaish uchel, “Eli, Eli, lema sabachthami?” sy'n goligu, “In Dduw i, in Dduw i, pam wit ti wedi 'ngadel i?” Pan gliwo rhei o'r dinion we'n sefill fan'ny fe'n gweiddi, 'co nhwy'n gweud, “Ma'r dyn 'ma in gweddi ishe Eleias.” A 'co un onyn nhwy in rhedeg a nôl sbwnj, i lewni fe â gwin sur, a'i roi e ar ialen, a'i roi fe iddo fe hifed. Ond gwedodd rhei erill, “Arhoswch, gadwch inni weld a yw Eleias in dwâd i safio fe.” Wedyn gweiddodd Iesu shwrne 'to â llaish uchel a hildo i isbryd. A'r funud 'ny cas i cyrten we in i demel i rico'n ddou o'r top i'r gweilod. Shiglodd i ddeiar, a torrodd cerrig in u hanner. Cas i twme 'u hagor, cas cyrff lot o'r saint we wedi cwmpo i gisgu 'u codi. Wedi 'ddo fe godi dethon nhwy mas o'r twme a dod miwn i Jeriwsalem a welo lot o ddinion nhwy. Nawr pan welo'r canwriad a'r rhei we 'dag e, rhei we'n cadw golwg ar Iesu, i ddeiar in isgwyd a beth ddigwyddodd, geson nhwy ofon ofnadwy a gwedon nhwy, “Crwt Duw we hwn in wir!”
We lot o fenwod fan'ny 'fyd, in edrych ar beth we'n digwydd o bell bant; wen nhwy wedi dilyn Iesu o Galilea a wedi 'drich ar i ôl e. We Mair o Magadala, Mair mam Iago a Ioan, a mam crwts Sebedeus in rhei onyn nhwy.
Pan ddechreuodd hi dewillu, dâth dyn abal o Arimathea, Joseff we'i enw e, a wedd e'n dilyn Iesu, a mynd at Peilat. Holodd e am gâl corff Iesu; so ordrodd Peilat fod corff Iesu in câl 'i dinnu lawr o'r grwês a'i roi iddo fe. So cwrmodd Joseff i corff a'i lapo fe miwn llien glân a rhoi fe i orwe in i dwm e 'i unan, we wedi câl i dorri mas o'r graig. Wedi roiodd e garreg fowr o flân i drws miwn i'r twm a mynd bant. We Mair o Magdala a'r Mair arall fan'ny, in ishte goddereb â'r twm.
Trannoth, i dwarnod wedi'r dwarnod Paratoi, we'r ffeiradon mowr a'r Ffariseied wedi dwâd o flân Peilat a gwedon nhwy, “Mishtir, ŷn ni'n cofio beth wedodd i twyllwr 'na pan wedd en fyw, 'Wedi tri dwarnod bidda i'n codi shwrne 'to.’ So rho ordors bo'r twm in câl i gadw'n sownd hys i tridydd dwarnod; achos galle'i ddisgiblion e fynd a dwgid i gorff e, a gweu'th dinion erill, 'Mae e wedi câl i godi o farw, a buse'r twyll 'ny in wâth na'r cinta.” Gwedodd Pilat wrthyn nhwy, “Ma 'dach chi gârd o sowldwrs; cerwch chi a neud in shŵr fod i twm wedi'i gau in sownd. So fe ethon nwy 'da'r gârd a neud i twm in sownd wrth roi sêl ar i garreg.