Galwodd e'r crowd ato fe a gweu 'thyn nhwy, “Grondwch, a diallwch. Ddim beth sy'n mynd miwn i ddyn sy'n i neud e'n fowlyd; ond beth sy'n dod mas o'i ben sy'n neud dyn in fowlyd.” Dâth i disgiblion ato a gweu 'tho fe, “Wet ti'n gwbod bo'r Ffariseied in sinnu at beth wedes di jst nawr?” Atebodd e, “Geith pob plansyn nâth in Dad i ddim mo'u pannu nhwy u tinnu lan. Gadwch nhwy fod. Dinion dall in arwen dinion dal yw nhwy. Os neith un dyn dall arwen un arall, neuth i ddoun gwmpo miwn i dwll.” Atebo Pedr e, “Egspleina'r ddameg i ni.” Gwedodd e, “Senoch chi ddim in diall o hyd, ŷch chi? Senoch chi'n diall bod beth binnag sy'n mynd miwn i'r pen in mynd i'r stumog a mas in i tŷ bach? Ond ma beth sy'n dwâd mas o'r pen in dwâd o'r meddwl, a ma hinny'n neud dyn in fowlyd. Achos mas o'r meddwl ma meddilie drwg in dwâd, lladd, godineb, mocheidd-dra, dwyn, gweud celwy am riwun, gweud pethe cas am riwun. Co'r pethe sy'n neud dyn in fowlyd, ond seno bita bwyd 'da dwylo heb u golchi in neud dyn in fowlyd.”