Begianon‑nhwy iddo fe beido u hala nhwy i fynd i le'r cithreilied. We lot fowr o foch in pori fan 'ny ar i mini; a begianodd i cithreilied i adel iddyn nhwy fynd miwn i'r moch. Nâth‑e 'ny. Dâth i cithreilied mas o'r dyn a mind miwn i'r mohc, a rhedon‑nhwy lawr dros i dwnshwn a miwn i'r llyn a châl u boddi. Pan welo'r rhei we'n drich ar ôl i moch beth we wedi digwydd fe redon‑nhwy bant a gweud beth we wedi digwydd trw'r dre a'r wlad obitu. Dâth dinion mas i weld beth we wedi digwydd. Dethon‑nhwy at Iesu a ffindo'r dyn we'r cithreilied wedi dod mas ono fe, in ishte wedi gwishgo a'n reit i feddwl wrth drâd Iesu, a we ofon arnyn nhwy. Gwedo'r rhei we wedi gweld i peth shwt we'r dyn â cithreilied wedi câl i wella. Gofinno bob un we'n byw in gwlad i Gerasenied iddo fynd bant, achos we ofon mowr arnyn nhwy. So âth‑e miwn i'r cwch a mynd nôl. Begianiodd i dyn we cithreilied wedi bod indo fe a gese‑fe ddwâd 'dag e, ond halodd‑e fe bant, a gweud, “Cer getre, a gwed beth 'ma Duw wedi 'neud i ti.” Âth‑e bant a chihoeddi trw'r dre beth we Iesu wedi neud iddo fe.
Fel we Iesu in dwâd nôl, we'r crowde in rhoi croeso iddo fe, achos wen‑nhwy i gyd in i ddishgwyl. Dâth dyn o'r enw Jairus, dyn mowr in i sinagog. Cwmpodd‑e wrth drâd Iesu, a begian arno fe i ddwâd i'w gaetre fe, achos dim ond un plentyn we dag e, rhoces douddeg mlwydd wedi, a wedd‑i'n marw.
Wrth 'ddo fynd ar i ffordd, we'r crowde in pwyso miwn arno. We menyw we wedi câl amser ofnadw ers douddeg mline achos hemerej fan 'ny — we neb in galler i gwella hi, ond wedd‑i sdil wedi hala popeth we 'da 'i ar ddoctoried. Dâth‑i lan tu ôl 'ddo fe a twtsh â gweilod i wishg e, a whap stopodd ir hemrej. Gwedo Iesu, “Pwy nâth dwtsh â fi?” Nâth bob un weud na nhwy we wedi neud, a gwedod Pedr, “Mishtir, we'r crowd rownd ti i gyd, a'n gwasgu miwn arnat ti.” Ond gwedo Iesu, “Nâth rhiwun dwtsh â fi; achos deimles‑i bo nerth wedi mynd mas ona i.” Pan stando'r fenyw bo hi ddim wedi dod ben â peido câl silw, 'co hi'n dwâd mlân in crinu i gyd a cwmpo lawr o'i flân e. A fan 'ny o flân i dinion i gyd egsbleinodd‑i pam wedd‑i wedi twtsh a gweilod i wishg e, a gweud i bod 'i wedi câl i gwella ar unweth. Gwedodd‑e wrthi, “In rhoces i, ma di ffydd di wedi di wella di. Cer miwn heddwch.”
Pan wedd‑e wrthi'n sharad, dâth rhiwun o dŷ dyn mowr i sinagog a gweud, “Ma di roces di wedi marw. Paid poeni mwy ar i Mishtir.” Cliwo Iesu hyn a gweu‑'tho, “Paid câl ofon. Dim ond creda, a geith‑i i neud in well.” Pan ddâth‑e i'r tŷ nâth‑e ddim gadel i neb ddod miwn 'dag e ond Pedr, Ioan a Iago, a tad a mam i plentyn. We'r dinion i gyd tu-fas in boichen lllefen a'n bwrw briste fel wen‑nhwy'n mwrno'r rhaoces. Gwedodd‑e, “Peidwch llefen. Sen‑i wedi marw; cisgu mae‑i.” Nethon‑nhwy sbort am i ben e, achos wen‑nhwy'n gwbod i bod hi wedi marw. Cidjodd‑e in i llaw hi, a gweiddi, “Coda, in blentyn i.” Dâth i hisbryd hi nôl ar unweth, a gododd‐i streit. Rhiodd-e ordors iddyn-nhwy roi rhwbeth iddi fita. Câs i thad a'i mham sioc fowr, ond roiodd‑e ordors iddyn‑nhwy beido gweud wrth neb beth we wedi digwydd.