“'Co beth ma'r ddameg in goligu: Ir hâd yw neges Duw. Ma'r hâd gâs i hou ar bwys ir hewl in goligu i rhei sy wedi cliwed, ond wedyn ma'r jawl in dod a'n cwmrid i neges o'u meddilie, fel bo nhwy ddim in credu a câl u safio. Ma'r hâd gâs i hou ar graig in goligu'r rhei, pan man‑nhwy'n cliwed, in derbyn i neges in llowen, ond sdim gwreidde 'da nhwy; man‑nhwy'n credu am damed bach, ond pan ma treialon bowid yn dod ma‐nhwy'n cwmpo bant. Ma'r hâd gwmpodd in i drisi in goligu'r rhei sy wedi cliwed, ond wrth iddyn nhwy fynd ar u ffordd man‑nhwy'n câl u tagu 'da gofidie, 'da cifoth a plesere'r byd, a ddim in rhoi unrhiw ffrwyth in iawn. Ma'r hâd in i tir 'da in goligu'r dinion da a onest 'ny sy'n cliwed i neges, in dala'n sownd indo in u calone a'n sefill in gadarn nes bod i cineia in dod.
“Sneb in cinnu canwill a'n rhoi llester dros i phen, neu'n i rhoi 'ddi dan gwely. Nadyn, man‑nhwy i rhoi ddi mewn stand lamp, fel bo'r rhei sy'n dod miwn in galler gweld i gole. Achos sdim byd sy'n câl i gwato na fydd in dod miwn i'r gole, sdim byd wedi'i roi nôl na fydd in câl i wbod a'i ddangos. Biddwch in ofalus wedyn 'te shwt ŷch‑chi'n grondo; achos i'r rhei ma rhwbeth gida nhwy, ceith mwy i roi, a wrtho fe sdim byd 'dag e, bydd hyd‑'nôd beth mae‑e'n meddwl sy 'dag e in câl i gwmrid bant.”
Dâth i fam a'i frodyr ato, ond wen‑nhwy'n ffaelu mind miwn ato fe achos i crowd. Dâth dinion â'r hanes ato fe, “Ma di fam a di frodyr in sefyll tu-fas, a man‑nhwy am di weld di.” Atebodd‑e nhwy, “In fam i a'n frodyr i yw'r hrei sy'n cliwed neges Duw a'n neud rhwbeth amdano.”
Un dwarnod âth‑e a'i ddisgiblion miwn i gwch, a gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Gadwch inni groeshi i ochor arall i llyn.” So bant â nhwy. Wrth iddyn nhwy fynd cwmpodd‑e i gisgu. Dâth cwthwm o wynt lawr ar i llyn, we'r cwch in llewni 'da dŵr, a we pethe'n drych in ddansherus. Dethon‑nhwy ato fe a'i ddihuno, a gweud, “Mishtir, Mishtir, ŷn‑ni'n shinco.” Dihunodd‑e a sharad in grac 'da'r gwynt a'r dŵr rwff. Stopodd i mathew a we popeth in dawel. Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Ble ma'ch ffydd chi?” Dâth ofon arnyn nhwy a wen‑nhwy'n sinnu, in gweud wrth u gilydd, “Pwy yw hwn? Mae‑e'n rhoi ordors hyd‑'nôd i'r gwynt a'r dŵr, a man‑nhwy'n grondo arno fe.”