Yn gymmaint gan hynny a rhoddi o Dduw iddynt y cyfryw ddawn, ac a roddes i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist: pwy oeddwn i, i luddio Duw?
Pan glywsant hwy hyn, distawi a wnaethant, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, rhoddes Duw gan hynny i’r cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd.