A’r Arglwydd a’m atebodd ac a ddywedodd;
Ysgrifena weledigaeth;
A cherfia ar y llechau:
Fel y rhedo yr hwn a’i darlleno.
Canys eto bydd gweledigaeth at yr amser;
A hi a frysia i’r diwedd ac ni thwylla:
Os erys, dysgwyl wrthi:
Canys gan ddyfod y daw, nid oeda.