1
Mathew 17:20
beibl.net 2015, 2023
“Am eich bod chi’n credu cyn lleied,” meddai. “Credwch chi fi, petai’ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Symud i’r fan acw’ a byddai’n symud. Fyddai dim byd yn amhosib i chi.”
Cymharu
Archwiliwch Mathew 17:20
2
Mathew 17:5
Roedd yn dal i siarad pan ddaeth cwmwl disglair i lawr o’u cwmpas, a dyma lais o’r cwmwl yn dweud, “Fy Mab annwyl i ydy hwn; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr. Gwrandwch arno!”
Archwiliwch Mathew 17:5
3
Mathew 17:17-18
“Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i’n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i’ch dioddef chi? Tyrd â’r bachgen yma ata i.” Dyma Iesu’n ceryddu’r cythraul, a daeth allan o’r bachgen. Cafodd ei iacháu y foment honno.
Archwiliwch Mathew 17:17-18
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos