Mathew 17:20
Mathew 17:20 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Am eich bod chi’n credu cyn lleied,” meddai. “Credwch chi fi, petai’ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Symud i’r fan acw’ a byddai’n symud. Fyddai dim byd yn amhosib i chi.”
Mathew 17:20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Meddai ef wrthynt, “Am fod eich ffydd chwi mor wan. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, os bydd gennych ffydd gymaint â hedyn mwstard, fe ddywedwch wrth y mynydd hwn, ‘Symud oddi yma draw’, a symud a wna. Ac ni fydd dim yn amhosibl i chwi.
Mathew 17:20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oblegid eich anghrediniaeth: canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symud oddi yma draw; ac efe a symudai: ac ni bydd dim amhosibl i chwi.