Bob tro dw i’n agor fy ngheg rhaid i mi weiddi,
“Mae trais a dinistr yn dod!”
Mae neges yr ARGLWYDD yn fy ngwneud
yn ddim byd ond jôc a thestun sbort i bobl drwy’r amser.
Dw i’n meddwl weithiau, “Wna i ddim sôn amdano eto.
Dw i’n mynd i wrthod siarad ar ei ran!”
Ond wedyn mae ei neges fel tân y tu mewn i mi.
Mae fel fflam yn llosgi yn fy esgyrn.
Dw i’n trio fy ngorau i’w ddal yn ôl,
ond alla i ddim!