Bydda i’n plannu coed cedrwydd yno,
coed acasia, myrtwydd, ac olewydd;
bydda i’n gosod coed cypres,
coed llwyfen a choed pinwydd hefyd –
er mwyn i bobl weld a gwybod,
ystyried a sylweddoli
mai’r ARGLWYDD sydd wedi gwneud hyn,
ac mai Un Sanctaidd Israel sydd wedi peri iddo ddigwydd.