1
Eseciel 34:16
beibl.net 2015, 2024
Dw i’n mynd i chwilio am y rhai sydd ar goll, a dod â’r rhai sydd wedi crwydro yn ôl adre. Dw i’n mynd i rwymo briwiau y rhai sydd wedi’u hanafu, a helpu’r rhai sy’n wan. Ond bydd y rhai cyfoethog a chryf yn cael eu dinistrio. Bydda i’n gofalu eu bod nhw’n cael beth maen nhw’n ei haeddu!
Cymharu
Archwiliwch Eseciel 34:16
2
Eseciel 34:12
Fel mae bugail yn chwilio am ei braidd pan maen nhw wedi mynd ar chwâl, bydda i’n dod o hyd i’m praidd i. Bydda i’n eu hachub nhw o ble bynnag aethon nhw ar y diwrnod tywyll, stormus hwnnw.
Archwiliwch Eseciel 34:12
3
Eseciel 34:11
“‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i fy hun am fynd allan i chwilio am fy nefaid. A dw i’n mynd i ddod o hyd iddyn nhw.
Archwiliwch Eseciel 34:11
4
Eseciel 34:15
Dw i fy hun yn mynd i ofalu amdanyn nhw, a rhoi lle iddyn nhw orwedd i lawr, meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD.
Archwiliwch Eseciel 34:15
5
Eseciel 34:31
“Chi, fy nefaid i sy’n byw ar fy mhorfa i, ydy fy mhobl i. A fi ydy’ch Duw chi,” meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD.
Archwiliwch Eseciel 34:31
6
Eseciel 34:2
“Ddyn, proffwyda yn erbyn bugeiliaid Israel (sef yr arweinwyr). Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae chi, fugeiliaid Israel, sy’n gofalu am neb ond chi’ch hunain! Oni ddylai bugeiliaid ofalu am y praidd?
Archwiliwch Eseciel 34:2
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos