1
1 Ioan 4:18
beibl.net 2015, 2023
Does dim ofn yn agos at y cariad yma, achos mae cariad perffaith yn cael gwared ag ofn yn llwyr. Os ydyn ni’n ofnus mae’n dangos ein bod ni’n disgwyl cael ein cosbi, a’n bod ni ddim wedi cael ein meddiannu’n llwyr gan gariad Duw.
Cymharu
Archwiliwch 1 Ioan 4:18
2
1 Ioan 4:4
Ond blant annwyl, dych chi’n perthyn i Dduw. Dych chi eisoes wedi ennill y frwydr yn erbyn y proffwydi ffals yma, am fod yr Ysbryd sydd ynoch chi yn gryfach o lawer na’r un sydd yn y byd.
Archwiliwch 1 Ioan 4:4
3
1 Ioan 4:19
Dŷn ni’n caru’n gilydd am ei fod e wedi’n caru ni gyntaf.
Archwiliwch 1 Ioan 4:19
4
1 Ioan 4:7
Ffrindiau annwyl, gadewch i ni garu’n gilydd, am fod cariad yn dod oddi wrth Dduw. Mae pawb sy’n caru fel hyn wedi’i eni’n blentyn i Dduw ac yn nabod Duw.
Archwiliwch 1 Ioan 4:7
5
1 Ioan 4:8
Os ydy’r cariad hwn ddim gan rywun, dydy’r person hwnnw ddim yn nabod Duw chwaith – am mai cariad ydy Duw.
Archwiliwch 1 Ioan 4:8
6
1 Ioan 4:10
Dyma beth ydy cariad: dim y ffaith ein bod ni’n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi’n caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni.
Archwiliwch 1 Ioan 4:10
7
1 Ioan 4:11
Ffrindiau annwyl, os ydy Duw wedi’n caru ni gymaint â hyn, dylen ninnau hefyd garu’n gilydd.
Archwiliwch 1 Ioan 4:11
8
1 Ioan 4:9
Dyma sut wnaeth Duw ddangos ei gariad aton ni: anfonodd ei unig Fab i’r byd, er mwyn i ni gael bywyd drwyddo.
Archwiliwch 1 Ioan 4:9
9
1 Ioan 4:20
Pwy bynnag sy’n dweud ei fod yn caru Duw ac eto ar yr un pryd yn casáu brawd neu chwaer, mae’n dweud celwydd. Os ydy rhywun ddim yn gallu caru Cristion arall mae’n ei weld, sut mae e’n gallu caru’r Duw dydy e erioed wedi’i weld?
Archwiliwch 1 Ioan 4:20
10
1 Ioan 4:15
Os ydy rhywun yn cydnabod mai Iesu ydy Mab Duw, mae Duw yn byw ynddyn nhw a hwythau yn Nuw.
Archwiliwch 1 Ioan 4:15
11
1 Ioan 4:21
Dyma’r gorchymyn mae Duw wedi’i roi i ni: Rhaid i’r sawl sy’n ei garu e, garu ei gyd-Gristnogion hefyd.
Archwiliwch 1 Ioan 4:21
12
1 Ioan 4:1-2
Ffrindiau annwyl, peidiwch credu pawb sy’n dweud eu bod nhw’n siarad drwy’r Ysbryd. Rhaid i chi eu profi nhw i weld os ydy beth maen nhw’n ddweud wir yn dod oddi wrth Dduw. Mae digon o broffwydi ffals o gwmpas. Dyma sut mae nabod y rhai sydd ag Ysbryd Duw ganddyn nhw: Mae pob un sy’n cyffesu fod y Meseia Iesu wedi dod yn berson real o gig a gwaed yn dod oddi wrth Dduw.
Archwiliwch 1 Ioan 4:1-2
13
1 Ioan 4:3
Ond os ydy rhywun yn gwrthod cydnabod hyn am Iesu, dydy hwnnw ddim yn dod oddi wrth Dduw. Mae’r ysbryd sydd gan y person hwnnw yn dod oddi wrth elyn y Meseia. Dych chi wedi clywed ei fod yn mynd i ddod. Wel, y gwir ydy, mae e eisoes ar waith.
Archwiliwch 1 Ioan 4:3
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos