A gwedi darfod y Seibiaeth, Mair y Fagdalëad, a Mair mam Iago a Salome, á brynasant beraroglau, fel yr eneinient Iesu. Ac yn fore iawn y dydd cyntaf o’r wythnos, y daethant at y tomawd o gylch codiad haul. A hwy á ddywedasant wrth eu gilydd, Pwy á dreigla i ni y maen ymaith oddwrth ddrws y tomawd? (canys yr oedd efe yn fawr iawn.) Ond pan edrychasant, hwy á ganfuant bod y maen wedi ei dreiglo ymaith. A gwedi iddynt fyned i fewn i’r tomawd, hwy á welent fab ieuanc yn eistedd o’r tu dëau, gwedi ei ddilladu â gwisg wenllaes; a hwy á ddychrynasant. Ond efe á ddỳwedodd wrthynt, Na ddychrynwch; ceisio yr ydych Iesu y Nasarethiad, yr hwn á groeshoeliwyd. Efe á gyfododd: nid yw efe yma: wele y màn y dodasant ef. Eithr ewch, dywedwch iddei ddysgyblion ef, ac i Bedr, Y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Alilea; yno y cewch ei weled ef, fel y dywedodd i chwi. Yna gwedi i’r gwragedd ddyfod allan, hwy á ffoisant oddwrth y tomawd, wedi eu taro â chryndod â braw; ond ni ddywedasant ddim wrth neb, yr oeddynt wedi dychrynu cymaint.