Dysgwch yn awr gyffelybiaeth oddwrth y ffigysbren. Pan fyddo ei gangenau yn dyner, a’i ddail yn tòri allan, gwyddoch bod yr haf yn agos. Yr un modd, pan weloch yr holl bethau hyn, gwybyddwch ei fod ef yn agos, ïe wrth y drws. Yn wir, meddaf i chwi, nid â y genedlaeth hon heibio, hyd oni ddygwyddo yr holl bethau hyn. Nef a daiar á ballant, ond fy ngeiriau i ni phallant byth. Ond am y dydd hwnw, a’r awr hòno, ni ŵyr neb, hyd yn nod yr angylion, ond y Tad yn unig.