Wele! yr wyf yn eich anfon allan fel defaid yn nghanol bleiddiaid. Byddwch, gàn hyny, gall fel y seirff, a diniwaid fel y colomenod. Ond ymogelwch rhag y dynion hyn; canys hwy á’ch rhoddant i fyny i gynghorau, ac á’ch fflangellant chwi yn eu cynnullfëydd; a chwi á ddygir gèr bron llywiawdwyr a breninoedd, o’m hachos i, i ddwyn tystiolaeth iddynt hwy, ac i’r Cenedloedd. Ond pan roddant chwi i fyny, na phryderwch pa fodd, neu pa beth á lefaroch; canys pa beth á lefaroch á roddir yn eich meddwl yn y meidyn hwnw. Canys nid chwi fydd yn llefaru; ond Ysbryd fy Nhad, yr hwn á lefara drwyddoch. Yna y brawd á rydd y brawd i fyny i farwolaeth; a’r tad, y plentyn; a phlant á godant yn erbyn eu rhieni, ac á berant eu marwolaeth. A chwi á gasêir yn gyffredinol èr mwyn fy enw i. Ond y neb à barâo hyd y diwedd, á fydd cadwedig.