Mathew 10:32-33
Mathew 10:32-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Pwy bynnag sy’n dweud yn agored o flaen pobl eraill ei fod yn credu ynof fi, bydda innau’n dweud yn agored o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw’n perthyn i mi. Ond pwy bynnag sy’n gwadu ei fod yn credu ynof fi o flaen pobl eraill, bydda innau’n gwadu o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw’n perthyn i mi.
Mathew 10:32-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Pwy bynnag fydd yn fy arddel i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu harddel hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Ond pwy bynnag fydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu gwadu hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
Mathew 10:32-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pwy bynnag gan hynny a’m cyffeso i yng ngŵydd dynion, minnau a’i cyffesaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd: A phwy bynnag a’m gwado i yng ngŵydd dynion, minnau a’i gwadaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.