Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Gweithredoedd 11

A’r rhai, yn wir, à wasgarasid o herwydd y cyfyngder à gododd yn nghylch Stephan, á dramwyasent hyd yn Phenice, a Chyprus, ac Antiochia, heb lefaru y gair wrth neb ond Iuddewon yn unig. Er hyny rhai o honynt, a hwy yn wŷr o Gyprus, a Chyrene, gwedi dyfod o honynt i Antiochia, á lefarasant wrth y Groegiaid, gàn gyhoeddi y Newydd da am yr Arglwydd Iesu. A llaw yr Arglwydd oedd gyda hwynt, a nifer mawr á gredodd ac á droes at yr Arglwydd. A’r gair am danynt hwy, á ddaeth i glustiau y gynnulleidfa, oedd yn Nghaersalem; a hwy á ddanfonasant Farnabas, i fyned hyd Antiochia. Yr hwn, pan ddaeth, a gweled rhad Duw, á fu lawen ganddo, ac á gynghorodd bawb o honynt, drwy lwyrfryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd; oblegid yr oedd efe yn wr da, ac yn llawn o’r Ysbryd Glan, ac o ffydd: a nifer mawr á chwanegwyd at yr Arglwydd. Yna yr aeth Barnabas i Darsus, i geisio Saul; a gwedi iddo ei gael, efe á’i dyg i Antiochia. A bu iddynt, flwyddyn gyfan, ymgynnull gyda ’r gynnulleidfa, a dysgu pobl lawer; a galwyd y dysgyblion yn Gristionogion yn gyntaf yn Antiochia. Ac yn y dyddiau hyny daeth proffwydi o Gaersalem i waered i Antiochia. Ac un o honynt, a’i enw Agabus, á gyfododd, ac á arwyddodd drwy yr Ysbryd, y byddai newyn mawr dros yr holl dir: yr hwn á fu yn nyddiau Clawd. A’r dysgyblion á benderfynasant fod iddynt, bob un yn ol ei allu, ddanfon cymmhorth i’r brodyr, oedd yn preswylio yn Iuwdea. A hyny á wnaethant, gàn ei ddanfon at yr henuriaid, drwy law Barnabas a Saul.

A’r Apostolion a’r brodyr oedd yn Iuwdea, á glywsant ddarfod i’r Cenedloedd hefyd dderbyn gair Duw. A phan ddaeth Pedr i fyny i Gaersalem, y rhai o’r enwaediad á ymrysonasant ag ef, gàn ddywedyd, Ti a aethost i fewn at ddynion dienwaededig, ac á fwytëaist gyda hwynt. A Phedr á ddechreuodd, ac á eglurodd y peth iddynt mewn trefn, gàn ddywedyd, Yr oeddwn i yn ninas Ioppa yn gweddio; a, mewn llewyg, mi á welais weledigaeth, rhywbeth megys llenlian mawr yn disgyn o’r nef, wedi ei ollwng erbyn ei bedair congl, ac efe á ddaeth hyd ataf fi: a gwedi i mi edrych yn graff arno, mi á ddeliais sylw, ac á welais bedwartroedogion y ddaiar, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid yr awyr: a mi á glywais lais yn dywedyd wrthyf, Cyfod, Pedr, lladd a bwyta: minnau á ddywedais, Nid felly ddim, Arglwydd; canys nid aeth dim cyffredin neu aflan erioed i’m genau. A’r llais á’m hatebodd i eilwaith o’r nef, Y pethau à lanâodd Dnw, na alw di yn gyffredin. A hyn á wnaed deirgwaith. A’r holl bethau á dỳnwyd i fyny drachefn i’r nef. Ac wele, y cythrym hwnw, yr oedd tri o wŷr wedi dyfod at y tŷ yr oeddwn ynddo, gwedi eu danfon ataf o Gaisarea. Ar Ysbryd á archodd i mi fyned gyda hwynt, heb betruso dim: a’r chwech brawd hyn hefyd á aethant gyda mi. A nyni á aethom i fewn i dŷ y gwr, ac efe á fynegodd i ni pa fodd y gwelsai ef gènad yn sefyll yn ei dŷ, ac yn dywedyd wrtho, Anfon i Ioppa, a gỳr am Simon, à gyfenwir Pedr, yr hwn á lefara eiriau wrthyt, drwy y rhai yth achubir di a’th holl deulu. Ac a myfi yn dechreu llefaru, syrthiodd yr Ysbryd Glan arnynt, megys arnom ninnau yn y dechreuad. A mi á gofiais air yr Arglwydd, y modd y dywedodd efe, Iöan, yn wir, á drochai mewn dwfr; eithr chwi á drochir yn yr Ysbryd Glan. Yn gymaint a rhoddi o Dduw, gàn hyny, iddynt hwy yr un dawn ag i ninnau, y rhai á gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i, i allu lluddias Duw? A phan glywsant y pethau hyn, dystewi á wnaethant, a gogoneddu Duw, gàn ddywedyd, Fe roddes Duw, gàn hyny, i’r Cenedloedd hefyd ddiwygiad i fywyd.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Gweithredoedd 11