Pa’m y’th ddarostyngir, f’ enaid?
Pa’m terfysgi dan fy mron?
Yn dy Dduw gobeithia etto,
Fe ä heibio ’r dymmestl hon;
Ti gei etto ei foliannu,
Mewn llawenydd, ac â chân,
Am yr iachawdwriaeth hyfryd,
Dardd o wedd ei wyneb glân.
NODIADAU.
Parhâd o’r salm flaenorol ydyw hon. Y mae yr un teimlad hiraethus a galarus, yr un ymdrech rhwng ofnau a gobeithion, yn cael eu gosod allan, ac yn yr un cyffelyb ymadroddion, yn y ddwy. Ei ffydd a’i obaith sydd yn buddugoliaethu ar ei ofnau a’i ammheuon yn niwedd hon, fel yn niwedd hono. Addawa iddo ei hun ymwared o’i drallod, adferiad o’i alltudiaeth, ac y byddai iddo drachefn gael mwynhau yr hyn a ddymunai uwch law pob peth arall; sef, myned at allor ei Dduw, a’i fwynhau ef yn ordinhadau ei dŷ.