Pa’m y’th ddarostyngir, f’ enaid?
Pa’m terfysgi? — cred yn Nuw:
Canys etto cei ’i foliannu —
Duw dy iachawdwriaeth yw.
NODIADAU.
Y mae y salm hon yn dechreu yr ail o’r pump dosbarth‐ran o’r Salmau, yn ol yr hen ddosbarthiad Hebreaidd, a’r ail dan y teitl ‘Maschil,’ neu salm er addysg; a chyflwynir hi i feibion Corah — dosbarth o gantorion y cyssegr. Mae y tebygolrwydd yn gryf iawn mai pan yr oedd wedi ffoi dros yr Iorddonen, yn amser gwrthryfel Absalom, y cyfansoddodd Dafydd y gân doddedig hon:— y trallod trymaf a chwerwaf o’i holl drallodau. Yr ydym yn ei weled yma fel un ar foddi yn ymdrechu am ei fywyd:— weithiau yn suddo o’r golwg yn y dyfnder, ac yn codi i’r wyneb drachefn, ac yn y diwedd yn cael y lan yn ddihangol. Ei hiraeth angerddol am y cyssegr ac ordinhadau y cyssegr oedd ei deimlad dwysaf o’r cwbl yn ei absennoldeb hwn o Ierusalem. Nid yw yn cwyno dim ar ol mwynderau ei lys, pan yr oedd wedi ei yru yn alltud o hono; ond am y mwynhâd o Dduw yn ei dŷ y sychedai ei enaid, fel yr hydd am yr afonydd dyfroedd. Gall yr enaid duwiol fyw heb bob peth, ond heb ei Dduw.