ond y rhai
A obeithiwch yn yr Arglwydd,
Ymwrolwch, gwna ’ch cryfhau:
Dyrchwch lef, hyd y nef,
Molwch oll ei enw ef.
NODIADAU.
Y mae cŵynion trymion, ymbiliau taerion, a diolchiadau gwresog, megys yn gymmhlethedig â’u gilydd yn y salm hon:— cŵynion o herwydd rhyw drallod mawr, ymbiliau am ymwared o’r trallod hwnw; a mawl a diolch am yr ymwared wedi ei gael. Y mae trallod yn fendithiol i’r enaid, pan y mae yn ei ddwyn i weddïo; ac y mae ymwared o drallod yn dwyn ei ffrwyth priodol, pan y mae yr hwn a waredwyd yn dychwelyd i dalu diolch i’w waredydd. Y mae llawer mewn trallod nad ydynt byth yn gweddïo; ac ereill a weddïant yn nydd eu trallod, ac anghofiant ddiolch ar ol cael eu gwaredu o hono. Ond y mae holl gŵynion ac ymbiliau y Salmydd yn hon, a’i salmau ereill ef, yn troi yn fawl a diolch wedi iddo gael ei waredu.
Wedi iddo gael ei waredu o law Saul yn anialwch Mahon (1 Sam xxiii. 26-29), lle y bu mewn enbydrwydd mawr am ei einioes, y cyfansoddodd efe y salm hon, fe dybir. Yr oedd Saul a’i wŷr wedi ei amgylchynu y tro hwnw, fel yr ymddangosai braidd yn ammhossibl iddo ddiangc; ond daeth cenad at Saul yn hysbysu fod y Philistiaid wedi ymdaenu ar hyd y wlad i’w hanrheithio, fel y bu raid iddo adael Dafydd, a myned yn erbyn y gelynion hyny.
Ag ymadrodd o’r salm hon y cyflwynodd y Gwaredwr ei hun i ddwylaw ei Dad wrth drengu ar y groes:— “I’th ddwylaw di, y gorchymynaf fy ysbryd.”