Ti dro’ist fy ngalar trwm yn gân,
Diosgaist, do, fy sachwisg wael,
Gwnest i mi gael llawenydd glân.
Fy nghân
A esgyn megys fflam o dân
I’r nef yn fawl i’th enw glân;
Fy nhafod ddadgan beraidd glôd
I’th ddawn a’th râd, O Arglwydd Dduw!
Tra byddwy’n berchen byw a bod.