Dy bobl cadw, Arglwydd da,
I’th etifeddiaeth dod
Dy fendith; portha, dyrcha hwy’n
Dragywydd er dy glod.
NODIADAU.
Yn nechreu y salm hon, megys llawer o’i salmau ereill, ymbilia y Salmydd yn daer ar ei Dduw i wrandaw ac atteb ei weddïau, gan y teimlai fwy o ofal a phryder ynghylch hyny na dim arall. “Erglyw lef fy ymbil, pan waeddwyf arnat,” medd ef; yr hyn sydd yn dangos fod ei enaid mewn gwasgfa, yr hon a barai ei fod yn daer, dyfal, a gafaelgar yn ei weddi. Y gweddïau y byddo llef a gwaedd felly ynddynt ydynt bob amser yn llwyddiannus.
Gweddïa yma yn nesaf na byddai iddo gael ei dynu gyda’r annuwiolion — ei ddal yn eu maglau, a syrthio yn eu dwylaw; y rhai a lefarent yn deg wrtho, ac a ymddangosent yn gyfeillion iddo, er ei dwyllo i ymddiried ynddynt, fel y gallent gael gwell mantais i’w fradychu a’i niweidio. Y fath waethaf a mwyaf peryglus o elynion yw y cyfryw ddynion. Iudasiaid yn bradychu â chusan ydynt. Gweddïa hefyd am i’r Arglwydd farnu a thalu i’w elynion hyny, y rhai a wnaent anwiredd yn faleisus, yn ol drygioni eu gweithredoedd a’u hamcanion; ac yna tỳr allan i fendithio Duw, yn y sicrwydd a deimlai ei fod yn gwrandaw, ac yr attebai efe ei weddïau; a thraetha ei hyder a’i ymddiried diysgog yn ei Dduw, fel ei “nerth a’i darian,” a llawenydd a diolchgarwch ei galon, yn y profiad o’r hyder hwnw; a diwedda ei salm hon, fel aml un o’i salmau, mewn deisyfiad dros yr holl saint, am bob rhodd a bendith ddwyfol iddynt.