Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Salmau 27

Wel, disgwyl wrtho, f’ enaid: Ac ymwrola — clyw; Dywedaf wrthyt etto, Byth disgwyl wrth dy Dduw. NODIADAU. Y mae taflod genau y salm hon megys y gwin goreu, ac yn myned i wared yn felus; a gwnaeth rhai o’i hymadroddion i wefusau llawer Cristion, pan ar huno yn yr angeu, lefaru. Ar ba achlysur neillduol yn ei fywyd y cyfansoddodd Dafydd hon nis gellir penderfynu, nac ychwaith yn mha dymmor o’i fywyd:— Pan oedd dan orthrymder erledigaeth Saul, medd rhai: pan wedi heneiddio, ac ar achlysur marwolaeth ei dad a’i fam, medd ereill: wedi bod mewn perygl mawr am ei fywyd ar faes y rhyfel, medd ereill, pan y diffygiodd, ac yr ymosododd cawr o wersyll y Philistiaid arno, ac y meddyliodd ei ladd, gan dybied yn sicr ei fod yn ei law ef, ac yn ol pob tebygolrwydd a lwyddasai hefyd, ond fel y rhuthrodd Abisai ar y cawr, ac y lladdodd ef. Dychrynodd gwersyll Israel wedi deall am y perygl y buasai eu brenin ynddo: a thyngodd ei wŷr wrtho, gan ddywedyd, “Nid ai di gyda ni i ryfel, rhag i ti ddiffodd goleuni Israel;” 2 Sam xxi. 17. Cyfansoddwyd hi ar yr achlysur hwnw, medd dysgawdwyr Iuddewig; felly y tybia Patrick, Matthew Henry, ac ereill. Os ar yr achlysur hwnw y cyfansoddwyd y salm, dichon mai yr ymadrodd a ddywedodd ei wŷr wrtho; sef, “Rhag i ti ddiffodd goleuni Israel,” a gyffroai feddwl y Salmydd i ddechreu ei gân â’r ymadrodd “Yr Arglwydd yw fy ngoleuni” — yn awgrym i’w wŷr i edrych heibio iddo ef at Dduw Israel, tad a ffynnon dragywyddol goleuni a bywyd, megys yr oedd efe ei hun yn gwneyd: canys er ei fod yntau yn wir yn oleuni yn Israel, nad oedd er hyny yn ddim amgen na chyfrwng i adlewyrchu y goleuni a dderbyniai oddi wrth Dduw, a hyny am dymmor byr yn unig. Ymeifl ei ffydd yn gadarn yn yr Arglwydd drwy y salm o’i dechreu i’w diwedd, fel ei oleuni, ei iachawdwriaeth, ei nerth, ei Waredydd, a’i bob peth, drwy ei fywyd, yn angeu, ac am byth. Ymgartrefa ei enaid yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd, i’w fwynhau ef fel prif ac unig wrthddrych ei ddymuniad. Sŵn calon wedi ei “hattegu yn ddisigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd,” sydd i’w glywed yn llefaru drwy y salm — profiad uchel iawn yn gynnyrch ffydd gref iawn.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Salmau 27