1
Ioan 6:35
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
Medd yr Iesu wrthynt: “Myfi ydyw bara’r bywyd. Y neb a ddaw ataf i, ni ddaw newyn arno byth, a’r neb sy’n credu ynof i, ni ddaw syched arno byth.
Cymharu
Archwiliwch Ioan 6:35
2
Ioan 6:63
Yr ysbryd sy’n peri bywyd, nid oes dim grym yn y cnawd. Y geiriau a ddywedais i wrthych, ysbryd ydynt a bywyd ydynt.
Archwiliwch Ioan 6:63
3
Ioan 6:27
Gweithiwch nid am y bwyd sy’n darfod ond am y bwyd sy’n para i fywyd tragwyddol, a ddyry mab y dyn i chwi. Canys arno ef y rhoes y tad, sef Duw, ei sêl.”
Archwiliwch Ioan 6:27
4
Ioan 6:40
Canys hyn yw ewyllys fy nhad, i bob un sy’n edrych ar y mab ac yn credu ynddo gael bywyd tragwyddol, a minnau a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.”
Archwiliwch Ioan 6:40
5
Ioan 6:29
Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Dyma waith Duw, credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd ef.”
Archwiliwch Ioan 6:29
6
Ioan 6:37
Y cwbl a ddyry’r tad i mi, daw hynny ataf, ac am yr hwn a ddaw ataf i, nis bwriaf ef allan ddim
Archwiliwch Ioan 6:37
7
Ioan 6:68
Atebodd Simon Pedr iddo: “Arglwydd, at bwy yr awn oddiwrthyt? Geiriau bywyd tragwyddol sydd gennyt
Archwiliwch Ioan 6:68
8
Ioan 6:51
Myfi yw’r bara byw a ddaeth i lawr o’r nefoedd. Os bwyta neb o’r bara hwn, bydd fyw yn dragwyddol. A’r bara, meddaf, a roddaf i, fy nghnawd i ydyw dros fywyd y byd.”
Archwiliwch Ioan 6:51
9
Ioan 6:44
Ni all neb ddyfod ataf i heb i’r tad a’m hanfonodd ei dynnu ef, ac atgyfodaf innau ef yn y dydd diwethaf.
Archwiliwch Ioan 6:44
10
Ioan 6:33
canys bara Duw ydyw hwnnw sy’n dyfod i lawr o’r nefoedd, ac yn rhoddi bywyd i’r byd.”
Archwiliwch Ioan 6:33
11
Ioan 6:48
Myfi yw bara’r bywyd.
Archwiliwch Ioan 6:48
12
Ioan 6:11-12
Yna cymerth yr Iesu y torthau ac wedi diolch rhannodd hwy rhwng y rhai oedd yn gorwedd, ac yn yr un modd hefyd o’r pysgod, faint a fynnent. A phan ddigonwyd hwy, medd ef wrth ei ddisgyblion: “Cesglwch y darnau sydd yn weddill rhag difetha dim.”
Archwiliwch Ioan 6:11-12
13
Ioan 6:19-20
Felly wedi rhwyfo tua phum neu ddeg ystad ar hugain, y maent yn gweled yr Iesu’n rhodio ar y môr ac yn dyfod yn agos i’r llong, a daeth ofn arnynt. Medd yntau wrthynt: “Myfi sydd yma, peidiwch ag ofni;”
Archwiliwch Ioan 6:19-20
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos