1
Datguddiad 8:1
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
A phan agorodd efe y seithfed sêl, yr ydoedd gosteg yn y nef megis dros hanner awr.
Cymharu
Archwiliwch Datguddiad 8:1
2
Datguddiad 8:7
A’r angel cyntaf a utganodd; a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i’r ddaear: a thraean y prennau a losgwyd, a’r holl laswellt a losgwyd.
Archwiliwch Datguddiad 8:7
3
Datguddiad 8:13
Ac mi a edrychais, ac a glywais angel yn ehedeg yng nghanol y nef, gan ddywedyd â llef uchel, Gwae, gwae, gwae, i’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, rhag lleisiau eraill utgorn y tri angel, y rhai sydd eto i utganu!
Archwiliwch Datguddiad 8:13
4
Datguddiad 8:8
A’r ail angel a utganodd; a megis mynydd mawr yn llosgi gan dân a fwriwyd i’r môr: a thraean y môr a aeth yn waed
Archwiliwch Datguddiad 8:8
5
Datguddiad 8:10-11
A’r trydydd angel a utganodd; a syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel lamp, a hi a syrthiodd ar draean yr afonydd, ac ar ffynhonnau’r dyfroedd; Ac enw’r seren a elwir Wermod: ac aeth traean y dyfroedd yn wermod; a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, oblegid eu myned yn chwerwon.
Archwiliwch Datguddiad 8:10-11
6
Datguddiad 8:12
A’r pedwerydd angel a utganodd; a thrawyd traean yr haul, a thraean y lleuad, a thraean y sêr; fel y tywyllwyd eu traean hwynt, ac ni lewyrchodd y dydd ei draean, a’r nos yr un ffunud.
Archwiliwch Datguddiad 8:12
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos