1
Eseia 54:17
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Ni lwydda un offeryn a lunier i’th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i’th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, a’u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi, medd yr ARGLWYDD.
Cymharu
Archwiliwch Eseia 54:17
2
Eseia 54:10
Canys y mynyddoedd a giliant, a’r bryniau a symudant: eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr ARGLWYDD sydd yn trugarhau wrthyt.
Archwiliwch Eseia 54:10
3
Eseia 54:4
Nac ofna; canys ni’th gywilyddir: ac na’th waradwydder, am na’th warthruddir; canys ti a anghofi waradwydd dy ieuenctid, a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach.
Archwiliwch Eseia 54:4
4
Eseia 54:5
Canys dy briod yw yr hwn a’th wnaeth; ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw: dy Waredydd hefyd, Sanct Israel, DUW yr holl ddaear y gelwir ef.
Archwiliwch Eseia 54:5
5
Eseia 54:2
Helaetha le dy babell, ac estynnant gortynnau dy breswylfeydd: nac atal, estyn dy raffau, a sicrha dy hoelion.
Archwiliwch Eseia 54:2
6
Eseia 54:13
Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr ARGLWYDD; a mawr fydd heddwch dy feibion.
Archwiliwch Eseia 54:13
7
Eseia 54:8
Mewn ychydig soriant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr; ond â thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt, medd yr ARGLWYDD dy Waredydd.
Archwiliwch Eseia 54:8
8
Eseia 54:7
Dros ennyd fechan y’th adewais; ond â mawr drugareddau y’th gasglaf.
Archwiliwch Eseia 54:7
9
Eseia 54:9
Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi: canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na’th geryddwn.
Archwiliwch Eseia 54:9
10
Eseia 54:12
Gwnaf hefyd dy ffenestri o risial, a’th byrth o feini disglair, a’th holl derfynau o gerrig dymunol.
Archwiliwch Eseia 54:12
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos