1
Eseia 31:1
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Gwae y rhai a ddisgynnant i’r Aifft am gynhorthwy, ac a ymddiriedant mewn meirch, ac a hyderant ar gerbydau, am eu bod yn aml; ac ar wŷr meirch, am eu bod yn nerthol iawn: ond nid edrychant am Sanct Israel, ac ni cheisiant yr ARGLWYDD.
Cymharu
Archwiliwch Eseia 31:1
2
Eseia 31:2
Eto y mae efe yn ddoeth, ac a ddaw â chosbedigaeth, ac ni eilw ei air yn ôl; eithr cyfyd yn erbyn tŷ y rhai drygionus, ac yn erbyn cynhorthwy y rhai a weithredant anwiredd.
Archwiliwch Eseia 31:2
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos