Oherwydd fel hyn y dywed yr uchel a dyrchafedig,
sydd â'i drigfan yn nhragwyddoldeb,
a'i enw'n Sanctaidd:
“Er fy mod yn trigo mewn uchelder sanctaidd,
rwyf gyda'r cystuddiol ac isel ei ysbryd,
i adfywio'r rhai isel eu hysbryd,
a bywhau calon y rhai cystuddiol.
Ni fyddaf yn ymryson am byth
nac yn dal dig yn dragywydd,
rhag i'w hysbryd ballu o'm blaen;
oherwydd myfi a greodd eu hanadl.