Eseia 57:15-16
Eseia 57:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma mae’r Un uchel iawn yn ei ddweud, yr un sy’n aros am byth, a’i enw’n sanctaidd: Dw i’n byw mewn lle uchel a sanctaidd, ond dw i hefyd gyda’r rhai gostyngedig sydd wedi’u sathru – dw i’n adfywio’r rhai gostyngedig, ac yn codi calon y rhai sydd wedi’u sathru. Dw i ddim yn mynd i ddadlau drwy’r adeg, na dal dig am byth. Dw i ddim eisiau i ysbryd y bobl ballu, gan mai fi sy’n rhoi anadl iddyn nhw fyw.
Eseia 57:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd fel hyn y dywed yr uchel a dyrchafedig, sydd â'i drigfan yn nhragwyddoldeb, a'i enw'n Sanctaidd: “Er fy mod yn trigo mewn uchelder sanctaidd, rwyf gyda'r cystuddiol ac isel ei ysbryd, i adfywio'r rhai isel eu hysbryd, a bywhau calon y rhai cystuddiol. Ni fyddaf yn ymryson am byth nac yn dal dig yn dragywydd, rhag i'w hysbryd ballu o'm blaen; oherwydd myfi a greodd eu hanadl.
Eseia 57:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys fel hyn y dywed y Goruchel a’r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb, ac y mae ei enw yn Sanctaidd, Y goruchelder a’r cysegr a breswyliaf; a chyda’r cystuddiedig a’r isel o ysbryd, i fywhau y rhai isel o ysbryd, ac i fywhau calon y rhai cystuddiedig. Canys nid byth yr ymrysonaf, ac nid yn dragywydd y digiaf: oherwydd yr ysbryd a ballai o’m blaen i, a’r eneidiau a wneuthum i.