1
Salmau 66:17-20
Salmau Cân Newydd 2008 (Gwynn ap Gwilym)
Gwaeddais arno; roedd ei foliant Ef ar flaen fy nhafod i. Pe bai drwg o fewn fy nghalon, Ni wrandawsai arnaf fi. Ond rhoes sylw i lef fy ngweddi, Canys bythol ffyddlon yw. Am na throdd fy ngweddi oddi wrtho Bendigedig fyddo Duw.
Cymharu
Archwiliwch Salmau 66:17-20
2
3
Salmau 66:1-4
Rhowch wrogaeth, yr holl ddaear, I ogoniant enw Duw, A dywedwch, “Mor ofnadwy Dy weithredoedd o bob rhyw. Rwyt mor nerthol, mae d’elynion Yn ymgreinio ger dy fron. Moesymgrymu iti a moli D’enw a wna’r ddaear gron”.
Archwiliwch Salmau 66:1-4
4
Salmau 66:1-4-1-4
Archwiliwch Salmau 66:1-4-1-4
5
Salmau 66:8-12
Molwch ein Duw ni, chwi bobloedd, Rhoes le inni ymhlith y byw. Ond fel coethi arian, buost Yn ein profi ni, O Dduw. Rhwydaist ni, rhoist rwymau amdanom, Sathrodd carnau meirch ein ffydd. Aethom trwy y tân a’r dyfroedd, Ond fe’n dygaist ni yn rhydd.
Archwiliwch Salmau 66:8-12
6
Salmau 66:13-16
Dof i’th deml â phoethoffrymau; Talaf f’addunedau i gyd, Rhai a wneuthum pan oedd pethau’n Gyfyng arnaf am ryw hyd. Mi aberthaf basgedigion Yn bêr arogldarth i ti. Clywch, chwi oll sy’n ofni’r Arglwydd, Beth a wnaeth fy Nuw i mi.
Archwiliwch Salmau 66:13-16
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos