Rwyt yn trefnu ar gyfer daear:
Gwastatáu ei chefnau hir,
Dyfrhau’i rhychau; yna’i mwydo’n
Dyner â chawodydd ir.
Yna, i goroni’r flwyddyn,
Fe fendithi gnwd y tir.
Braster dros borfeydd y byd.
Gwisgi’r bryniau â llawenydd,
A’r dyffrynnoedd gydag ŷd.
Cuddi’r dolydd oll â defaid.
Canu y mae y bobl i gyd.