1
Y Salmau 51:10
Salmau Cân 1621 (Edmwnd Prys)
Duw, crea galon bur, dod i mi gysur beunydd. I fyw yn well tra fwy’n y byd, dod ynof yspryd newydd.
Cymharu
Archwiliwch Y Salmau 51:10
2
Y Salmau 51:12
Gorfoledd dwg i mi, drwy roddi ym dy iechyd: A chynnal a’th ysprydol ddawn fi, i fyw’n uniawn hefyd.
Archwiliwch Y Salmau 51:12
3
Y Salmau 51:11
O Dduw na ddyro chwaith, fi ymaith o’th olygon, Ac na chymer dy Yspryd glân oddiwrthif, druan gwirion
Archwiliwch Y Salmau 51:11
4
Y Salmau 51:17
Aberthau Duw i gyd, yw yspryd pur drylliedig, Ac ni ddistyri (o Dduw Ion) y galon gystuddiedig.
Archwiliwch Y Salmau 51:17
5
Y Salmau 51:1-2
Trugaredd dod i mi, Duw, o’th ddaioni tyner; Ymaith tyn fy enwiredd mau o’th drugareddau lawer. A golch fi yn llwyr ddwys oddiwrth fawr bwys fy meiau: Fy Arglwydd, gwna’n bur lân fyfi, rhag brynti fy nghamweddau.
Archwiliwch Y Salmau 51:1-2
6
Y Salmau 51:7
Ag Isop golch fi’n lan, ni byddaf aflan mwyach, Byddafi o’m golchi mal hyn, fel eira gwyn neu wynnach.
Archwiliwch Y Salmau 51:7
7
Y Salmau 51:4
Yn d’erbyn di yn unig, Y gwneuthym hyn oedd ddrwg yn dy lan olwg distrych, Fel i’th gyfiowner yn ol d’air, yn burair pan y bernych.
Archwiliwch Y Salmau 51:4
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos