Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Rhufeiniaid 8:32

Troi Cefn ar Ddibyniaeth
3 Diwrnod
Pan na fydd dy fywyd yn uniaethu â Gair Duw, rwyt yn siŵr o brofi canlyniadau poenus. Mae llawer wedi stryglo gyda’u bywydau, colli swyddi, a pherthnasoedd, ac yn cael eu hunain yn teimlo’n bell oddi wrth Dduw oherwydd eu dibyniaeth. Pa un ai os yw’n ddibyniaeth difrifol, fel cyffuriau neu bornograffi, neu ddibyniaeth llai, fel bwyd neu adloniant, mae dibyniaeth yn tarfu ar ein bywydau. Gad i’r awdur poblogaidd, Tony Evans, yn dy arwain ar dy ffordd i ryddid.

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
4 Diwrnod
Ymuna â David Villa yn ei ddefosiwn diweddaraf wrth iddo drafod y goblygiadau dwys sydd i’n bywydau wrth ymrwymo ein gwaith i’r Arglwydd.

Coda a Dos Ati
5 Diwrnod
Mae pobl yn aml yn dweud, “Rho dy feichiau trwm i’r Arglwydd.” Wyt ti byth yn meddwl tybed: Sut mae gwneud hynny? Mae drygioni'r byd yn teimlo'n rhy drwm. Ac er dy fod yn dymuno llewyrchu golau Iesu, rwyt ti'n meddwl tybed sut olwg sydd arno pan fyddi di'n cael trafferth gweld y golau dy hun. Mae'r defosiwn hwn yn edrych ar sut y gallwn fod yn oleuadau i Iesu hyd yn oed pan fydd ein byd ein hunain yn teimlo'n dywyll.

Agwedd
7 Diwrnod
Mae meithrin agwedd gywir ym mhob sefyllfa yn sialens go iawn. Wrth ddarllen darn o'r Beibl bob dydd am saith diwrnod byddwch yn dysgu beth sydd gan yr Ysgrythur i'w ddweud am y pwnc. Darllenwch y darn, holwch eich hun, a gadewch i Dduw siarad bob dydd â chi.

Dw i'n Dewis
12 Diwrnod
Wyt ti fyth ytn teimlo fel dy fod wedi dy ddal mewn llyfr dewis dy antur dy hun gyda rhywun arall yn dewis? Mae mamau yn iawn. Mae ein dewisiadau'n bwysig - dros ben. Mae'r cynllun Beiblaidd hwn gan Life.Church yn cyd-fynd gyda negeseuon Craig Groeschel i rai o'r dewisiadau mwyaf all unrhyw un ei wneud. Falle nad ydyn ni'n gallu dewis ein hanturiaethau ein hunain bob tro, ond gallwn ddewis pwrpas, gweddi, ildiad, disgyblaeth, cariad, a phwysigrwydd.

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob Her
30 diwrnod
Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.