Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Rhufeiniaid 8:1

Ble daw Gweddi yn Real
5 Diwrnod
Gall gweddi ymddangos yn unig weithiau. Yn aml, mewn gweddi, dw i'n ceisio tawelu fy nghalon a'm henaid, ac mae fy meddwl yn rhedeg i bobman. Weithiau dw i jyst yn syrthio i gysgu. Mae yna adegau pan mae'n teimlo fel fy ngweddïau yn bownsio oddi ar y nenfwd. Yr hyn nad ydym yn sylweddoli’n aml, fodd bynnag, yw bod yr Arglwydd yn cynnig newyddion da inni yn gywir yn y lleoedd hyn. Gad i ni dreulio peth amser yn ystyried y newyddion da am weddi.

Buddugoliaeth dros Farwolaeth
7 Diwrnod
Dro ar ôl tro dwedir wrthym, "Jyst rhan arall o fywyd yw e," ond dydy dywediadau ffwrdd â hi ddim yn gwneud colyn colli rhywun un rwyt yn ei garu, yn llai poenus. Dysga redeg at Dduw wrth wynebu un o sefyllfaoedd anoddaf bywyd.

Saith Allwedd i Gyfanrwydd Emosiynol
7 Diwrnod
Mae o leiaf saith prif agwedd ar gyfanrwydd yn ymwneud â cheisio’r gorau gan Dduw ar gyfer dy fywyd emosiynol. Does dim angen i ti gymryd y rhain yn eu trefn. Ymuna â Dr. Charles Stanley wrth iddo dy helpu i adeiladu arferion allweddol yn dy fywyd a fydd yn dy helpu i ddod yn fwyfwy cyfan yn dy ysbryd a'th emosiynau. Darganfydda fwy o gynlluniau darllen fel hwn yn intouch.org/plans.

Taith Di-bryder
7 Diwrnod
Mewn tymor prysur adeg y Nadolig mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo straen a phryder o fewn perthynas f=deuluol, penderfyniadau brysiog, a disgwyliadau siomedig. Felly dos yn dy flaen. Pwylla a dechrau'r cynllun Life.Church hwn a sylweddola fod y pwysau dŷn ni'n ei deimlo ddim tr hyn ofynnodd Duw i ni ei gario. Beth am beidio pryderu? Gad i ni fynd ar daith di-bryder.

Iesu: Baner ein Buddugoliaeth
7 Diwrnod
Pan fyddwn yn dathlu'r Pasg dŷn ni'n dathlu'r fuddugoliaeth fwyaf mewn hanes. Drwy farwolaeth Iesu a'i atgyfodiad. gorchfygodd am byth bŵer pechod a'r bedd, a'r holl oblygiadau oedd yn dilyn, a dewisodd rannu; r fuddugoliaeth hynny gyda ni. Ar y penwythnos Pasg hwn, gad i ni dreiddio i mewn i rai o'r `cadarnleoedd orchfygwyd ganddo, myfyrio ar y frwydr drosom, a'i foli fel Baner ein Buddugoliaeth.

Dw i'n Dewis
12 Diwrnod
Wyt ti fyth ytn teimlo fel dy fod wedi dy ddal mewn llyfr dewis dy antur dy hun gyda rhywun arall yn dewis? Mae mamau yn iawn. Mae ein dewisiadau'n bwysig - dros ben. Mae'r cynllun Beiblaidd hwn gan Life.Church yn cyd-fynd gyda negeseuon Craig Groeschel i rai o'r dewisiadau mwyaf all unrhyw un ei wneud. Falle nad ydyn ni'n gallu dewis ein hanturiaethau ein hunain bob tro, ond gallwn ddewis pwrpas, gweddi, ildiad, disgyblaeth, cariad, a phwysigrwydd.