Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Rhufeiniaid 8:18

Mynd Trwy Sefyllfaoedd Anodd
4 Diwrnod
Mae wynebu sefyllfaoedd anodd yn ein bywydau yn anochel. Ond yn y Cynllun 4 diwrnod byr hwn, byddwn yn cael ein calonogi gan wybod nad ydym ar ein pennau ein hunain, bod gan Dduw bwrpas i’n poen, ac y bydd yn ei ddefnyddio at ei ddiben ehangach.

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
7 Diwrnod
Efallai nad ydyn ni bob amser yn ei weld na'i deimlo, ond mae Duw bob amser gyda ni... hyd yn oed pan fyddwn yn mynd trwy bethau anodd. Yn y cynllun hwn, mae Amy LaRue, Cydlynydd Finding Hope, yn sgwennu o'r galon am frwydr ei theulu ei hun â chaethiwed a sut y torrodd llawenydd Duw drwodd yn eu cyfnod tywyllaf.

Darganfod Gwirionedd Duw Yn Stormydd Bywyd
10 Diwrnod
Fel Cristnogion, nid ydym yn ddiogel o drafferthion yn y byd hwn. Yn wir, mae Ioan 16:33 yn addo y byddan nhw'n dod. Os wyt ti'n wynebu stormydd bywyd ar hyn o bryd, mae'r defosiwn hwn ar dy gyfer di. Mae'n ein hatgoffa o'r gobaith sy'n ein cael drwy stormydd bywyd. Ac os nad wyt ti'n wynebu unrhyw frwydrau yn y foment hon, bydd yn rhoi'r sylfaen iti a fydd yn dy helpu di trwy dreialon yn y dyfodol.