Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Rhufeiniaid 8:16

Sicrwydd
4 Diwrnod
Mae Duw eisiau i ti WYBOD dy fod wedi dy achub ac yn mynd i'r nefoedd! Mae dy sicrwydd yn tyfu drwy gyfarfod â Duw a myfyrio ar ei Air. Gall yr adnodau canlynol, ar ôl i ti eu dysgu, dy helpu i gael sicrwydd yn Nuw gydol dy oes. Gad i'th fywyd gael ei drawsnewid drwy ddysgu adnodau ar y cof! Am gynllun cynhwysfawr ar sut i ddysgu adnodau dos i www.Memlok.com

Blwyddyn Newydd: Dechrau Newydd
5 Diwrnod
Mae blwyddyn newydd yn gyfystyr â dechrau newydd a dechrau newydd. Mae'n amser i ailosod, adnewyddu, ac ailffocysu ar yr hyn sydd bwysicaf yn dy fywyd. Mae cael y flwyddyn orau erioed yn dechrau trwy wybod dy fod wedi dy wneud yn newydd trwy Iesu. Byw yn newydd yn y flwyddyn newydd!

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw
5 Diwrnod
Wyt ti'i'n profi tymor anialwch, heb ddod o hyd i ddŵr na hafan i'th enaid? Beth petai gan y tymor hwn y gobaith mwyaf oll: i adnabod Presenoldeb Duw yn agos, yn ddilys, ac yn angerddol? Mae'r defosiwn hwn yn dy annog nad yw'r amser hwn yn cael ei wastraffu, er y teimli rai dyddiau nad wyt yn mynd i unman. Oherwydd waeth pa dir bynnag wyt ti'n ei droedio, mae Duw yn teithio gyda thi fel Cysurwr, Rhoddwr Bywyd, a Chyfaill.

Dewiswyd: Atgoffa dy hun o'r Efengyl bob dydd
7 Diwrnod
Beth fydde’n digwydd pe bae ti’n deffro pob bore ac atgoffa dy hun o’r Efengyl? Mae’r defosiwn 7 niwrnod hwn yn ceisio dy helpu i wneud hynny’n union! Mae’r Efengyl, nid yn unig yn ein helpu, ond mae’n ein cynnal drwy gydol ein bywyd. Mae’r awdur ac Efengylwr, Matt Brown, wedi llunio a seilio’r cynllun darllen hwn ar y llyfr defosiynol 30 diwrnod, sydd wedi’i sgwennu gan Matt Brown a Ryan Skong.