Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Rhufeiniaid 8:14

Yr hyn mae'r Tad yn ddweud
3 Diwrnod
Mae meddyliau’r Tad o gariad tuag atat gymaint mwy nag ydy’r tywod ar lan y môr. Ti ydy ei annwyl blentyn, ac mae wedi’i blesio yn llwyr ynot ti. Mae’r defosiwn hwn yn wahoddiad iti ddod ar draws natur berffaith, anhygoel dy Dad nefol. Yn ei gariad, nid oes ymdrech na braw, oherwydd yr wyt yng nghledr ei law.

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw
5 Diwrnod
Wyt ti'i'n profi tymor anialwch, heb ddod o hyd i ddŵr na hafan i'th enaid? Beth petai gan y tymor hwn y gobaith mwyaf oll: i adnabod Presenoldeb Duw yn agos, yn ddilys, ac yn angerddol? Mae'r defosiwn hwn yn dy annog nad yw'r amser hwn yn cael ei wastraffu, er y teimli rai dyddiau nad wyt yn mynd i unman. Oherwydd waeth pa dir bynnag wyt ti'n ei droedio, mae Duw yn teithio gyda thi fel Cysurwr, Rhoddwr Bywyd, a Chyfaill.

Dewiswyd: Atgoffa dy hun o'r Efengyl bob dydd
7 Diwrnod
Beth fydde’n digwydd pe bae ti’n deffro pob bore ac atgoffa dy hun o’r Efengyl? Mae’r defosiwn 7 niwrnod hwn yn ceisio dy helpu i wneud hynny’n union! Mae’r Efengyl, nid yn unig yn ein helpu, ond mae’n ein cynnal drwy gydol ein bywyd. Mae’r awdur ac Efengylwr, Matt Brown, wedi llunio a seilio’r cynllun darllen hwn ar y llyfr defosiynol 30 diwrnod, sydd wedi’i sgwennu gan Matt Brown a Ryan Skong.

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord
30 diwrnod
Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.