Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Y Salmau 30:5
Y Grefft o Oresgyn
7 Diwrnod
Mae bywyd yn llawn anawsterau, colledion, siomedigaethau a phoen. Bydd y “Grefft o Oresgyn” yn dy helpu i ddelio â cholled, galar a loes. Mae’n ymwneud â gwrthod caniatáu i’r pethau sy’n edrych fel terfyniadau dy ddigalonni neu dy ddiarddel. Yn hytrach, gad i Dduw eu troi yn ddechreuadau. Pan fydd bywyd yn ddryslyd ac yn anodd, paid â rhoi'r gorau iddi. Edrych i fyny. Waeth pa foment anodd neu golled boenus rwyt ti'n ei wynebu, mae Duw gyda thi.
Beth yw Cariad go iawn?
12 Diwrnod
Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hwn gan Thistlebend Ministries yn chwilio am ystyr Beiblaidd cariad a sut i garu Duw ac eraill yn well.
Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord
30 diwrnod
Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.